Mae'r arolwg hwn wedi'i gynllunio i staff y cyngor gyflwyno ymatebion papur a hawdd eu darllen i'w harolwg preswylwyr ar ran eu preswylwyr.
Sut bydd data preswylwyr yn cael ei ddefnyddio
Mae Data Cymru yn cynnal yr arolwg hwn ar ran awdurdodau lleol yng Nghymru. Bydd gwybodaeth a allai adnabod preswylwyr yn cael ei gweld gan eu cyngor ar Ogwr a Data Cymru yn unig. Bydd y wybodaeth yn cael ei chadw am 3 mlynedd o'r dyddiad y mae'r arolwg yn cau yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR). Bydd eich cyfeiriad IP yn cael ei gasglu i helpu i nodi ymatebion dyblyg neu amhriodol.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei ddefnyddio ym mholisi preifatrwydd y Cyngor a pholisi preifatrwydd Data Cymru.
Cwblhau’r arolwg
Gallwch lenwi'r arolwg naill ai â llaw drwy gopïo'r ymatebion papur unigol, neu drwy uwchlwytho ffeil Excel swmp os ydych eisoes wedi cydgrynhoi ymatebion. Bydd ffeil yn cael ei darparu i chi ei defnyddio fel templed. Os dewiswch uwchlwytho ffeil rhaid iddi fod mewn fformat .xls neu .xlsx.
Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau technegol, cysylltwch â arolygon@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.
Gwasgwch 'Nesaf' i ddechrau.