Iaith

Dewch i Siarad: Byw yng Nghastell-nedd Port Talbot | Let's Talk: Living in Neath Port Talbot
0%
 
Mae Dewch i Siarad: Byw yng Nghastell-nedd Port Talbot yn arolwg am breswylwyr sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot .

 

Mae eich llais yn bwysig

Trwy ymateb i'r arolwg hwn byddwch yn helpu Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ddeall yn well:

  • Beth sy'n bwysig i chi
  • Eich profiad o'ch ardal leol
  • Sut rydych chi'n gweld ac yn rhyngweithio â'r Cyngor

Yn y pen draw, bydd eich barn yn helpu i lunio eich ardal leol a'ch gwasanaethau lleol. Felly, mae'n bwysig clywed gan gymaint o breswylwyr â phosibl. Anogwch eich teulu, ffrindiau a chymdogion i gwblhau'r arolwg hwn.

 

Sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynnal yr arolwg hwn ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Bydd gwybodaeth a allai eich adnabod yn cael ei gweld gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Data Cymru yn unig. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw am 3 blynedd o'r dyddiad y mae'r arolwg yn cau yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR). Bydd eich cyfeiriad IP yn cael ei gasglu i helpu i adnabod ymatebion dyblyg neu amhriodol. 

Mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei ddefnyddio ym mholisi preifatrwydd y Cyngor a pholisi preifatrwydd CLlLC.

 

Cwblhau’r arolwg

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. A fyddech chi cystal ag ymateb erbyn 27/10/2026. Mae'r arolwg hwn hefyd ar gael mewn fformatau eraill.

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach, neu os cewch unrhyw anhawster wrth gwblhau’r arolwg ar-lein, e-bostiwch Sgwrsio@npt.gov.uk.

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau technegol, cysylltwch ag arolygon@wlga.gov.uk neu ffoniwch 029 2046 8680.

 

Gwasgwch 'Nesaf' i ddechrau.

Polisi preifatrwydd Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru | Privacy policy Local Government Data Unit ~ Wales © 2016 – 
WLGA             Data Cymru