Iaith
    Dewch i Siarad: Byw yn Sir Benfro | Let's Talk: Living in Pembrokeshire
0%
 
Mae Dewch i Siarad: Byw yn Sir Benfro yn arolwg am breswylwyr sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Sir Penfro.

 

Mae eich llais yn bwysig

Trwy ymateb i'r arolwg hwn byddwch yn helpu Cyngor Sir Penfro i ddeall yn well:

  • Beth sy'n bwysig i chi
  • Eich profiad o'ch ardal leol
  • Sut rydych chi'n gweld ac yn rhyngweithio â'r Cyngor

Yn y pen draw, bydd eich barn yn helpu i lunio eich ardal leol a'ch gwasanaethau lleol. Felly, mae'n bwysig clywed gan gymaint o breswylwyr â phosibl. Anogwch eich teulu, ffrindiau a chymdogion i gwblhau'r arolwg hwn.

 

Sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio

Mae Mae Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynnal yr arolwg hwn ar ran Cyngor Sir Penfro . Bydd gwybodaeth a allai eich adnabod yn cael ei gweld gan Cyngor Sir Penfro a CLlLC yn unig. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw am 3 blynedd o'r dyddiad y mae'r arolwg yn cau yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR). Bydd eich cyfeiriad IP yn cael ei gasglu i helpu i adnabod ymatebion dyblyg neu amhriodol. 

Mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei ddefnyddio ym mholisi preifatrwydd y Cyngor a pholisi preifatrwydd CLlLC.

 

Cwblhau’r arolwg

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. A fyddech chi cystal ag ymateb erbyn 01/11/2026. Mae'r arolwg hwn hefyd ar gael mewn fformatau eraill.

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach, neu os cewch unrhyw anhawster wrth gwblhau’r arolwg ar-lein, e-bostiwch policy@pembrokeshire.gov.uk.

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau technegol, cysylltwch ag arolygon@wlga.gov.uk neu ffoniwch 029 2046 8680.

 

Gwasgwch 'Nesaf' i ddechrau.

Polisi preifatrwydd Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru | Privacy policy Local Government Data Unit ~ Wales © 2016 – 
WLGA             Data Cymru